Adnoddau Gwybodaeth i Rieni

Mae’r adnoddau gwybodaeth iechyd i rieni ar y dudalen hon wedi’u cynllunio i roi’r holl wybodaeth hanfodol a phwysig sydd ei hangen ar rieni i wneud y penderfyniadau gorau am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant.

 

Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth

Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn o Pob Plentyn – Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth, yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd. Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch bydwraig roi un i chi.

Mae’r llyfryn ar gael yn Gymraeg a Saesneg felly rhowch wybod i’ch bydwraig pa fersiwn fyddai orau gennych. I weld fersiwn Cymraeg y llyfryn digidol hwn, cliciwch yma.

Cliciwch ar y ddolen hon i agor y llyfryn Pob Plentyn – Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth

 

Pob Plentyn Newydd-anedig hyd at oed

Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn o Pob Plentyn Newydd-anedig hyd at 2 oed, yn fuan ar ôl i’w babi gael ei eni. Os ydych chi neu’ch partner wedi cael babi, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd roi un i chi.

Mae’r llyfryn ar gael yn Gymraeg a Saesneg felly rhowch wybod i’ch ymwelydd iechyd pa fersiwn fyddai orau gennych. I weld fersiwn Cymraeg y llyfryn digidol hwn, cliciwch yma.

Cliciwch ar y ddolen hon i agor y llyfryn Pob Plentyn Newydd-anedig hyd at 2 oed