Cam 2

Osgowch fagu gormod o bwysau pan fyddwch yn feichiog

Pan fyddwch yn feichiog, ceisiwch fagu pwysau iach – nid gormod ac nid rhy ychydig. Os ydych yn magu gormod, gall fod yn fwy anodd colli pwysau wedyn. Gall hefyd eich rhoi mewn perygl o bwysedd gwaed uchel neu olygu bod angen help arnoch gan feddyg pan gaiff eich babi ei eni.

Pwysau yn ystod beichiogrwydd

Gwir neu anwir?

  • 1. Mae angen i mi fwyta i ddau

    Anwir.  Mae rhai pobl yn dweud bod angen i chi ‘fwyta i ddau’, ond nid yw hyn yn wir a gallai olygu y byddwch yn magu gormod o bwysau. Nid oes angen calorïau ychwanegol arnoch yn ystod chwe mis cyntaf beichiogrwydd. Yn ystod y tri mis olaf bydd angen 200 o galorïau ychwanegol arnoch bob dydd, sef tua dwy dafell o fara. Ni fydd angen i bawb fwyta er mwyn diwallu’r anghenion hyn.

  • 2. Mae’n ddiogel i fenywod beichiog ymarfer corff

    Gwir.  Mae’n ddiogel ac yn iach i’r fam a’r babi gadw’n egnïol yn ystod beichiogrwydd. Mae’r manteision yn cynnwys eich helpu i gysgu’n well a chael llif ocsigen gwell i’ch babi. Os nad ydych yn siŵr am ymarfer corff, siaradwch â’ch bydwraig.

  • 3. Mae bwyta un pryd y dydd yn ffordd dda o reoli fy mhwysau

    Anwir.  Mae bwyta’n rheolaidd yn eich atal rhag mynd yn rhy lwglyd. Byddwch yn llai tebygol o fwyta byrbryd calori uchel, neu fwyta gormod yn ystod eich pryd nesaf. Bydd bwyta’n rheolaidd yn eich helpu i beidio â theimlo allan o reolaeth o ran eich bwyta.

  • 4. Nid yw rhai mathau o ymarfer corff yn ddiogel i fenywod beichiog

    Gwir. Er ei bod yn iach ac yn ddiogel i’r rhan fwyaf o fenywod beichiog ymarfer corff, mae rhai gweithgareddau y byddai’n well eu hosgoi.

    • Chwaraeon cyffwrdd lle ceir perygl y gallech gael eich taro, fel pêl-droed, rygbi, hoci neu sboncen
    • Gweithgareddau lle mae risg o gwympo fel sgïo a marchogaeth
    • Sgwba-blymio
    • Ymarfer corff ar uchder

    Peidiwch ag ymarfer corff wrth orwedd yn wastad ar eich cefn, yn enwedig ar ôl 16 wythnos, oherwydd gallwch deimlo’n wanllyd. Os nad oeddech yn egnïol cyn beichiogi, dechreuwch yn araf. Os byddwch yn ymuno â dosbarth, cofiwch ddweud wrth yr hyfforddwr eich bod yn feichiog.

    Cyfyngwch eich hun i 15 munud o ymarfer corff parhaus dair gwaith yr wythnos i ddechrau. Cynyddwch hyn yn raddol i o leiaf pedair sesiwn 30 munud yr wythnos.  Os nad ydych yn siŵr am ymarfer corff, siaradwch â’ch bydwraig.

  • 5. Gall bwydo ar y fron helpu menywod i ddychwelyd i’w pwysau cyn beichiogrwydd

    Gwir.  Dangoswyd bod bwydo ar y fron yn helpu mamau i ddychwelyd i bwysau iach ar ôl beichiogrwydd. Mae’n defnyddio calorïau ychwanegol, yn enwedig pan roddwch laeth y fron yn unig i’ch babi.

    Dysgwch ragor am fwydo ar y fron

  • 6. Mae angen imi gael llaeth braster llawn ‘caead glas’ i helpu esgyrn fy mabi i ddatblygu

    Anwir. Mae calsiwm mewn llaeth a chynnyrch llaeth arall yn eich helpu chi a’ch babi sy’n tyfu i feithrin esgyrn cryf. Ond does dim angen ichi ddewis llaeth braster llawn yn ystod beichiogrwydd. Mae gan laeth hanner sgim a sgim yr un swm o galsiwm, ond llai o fraster ac maent yn opsiwn iachach.

  • 7. Byddaf yn magu gormod o bwysau os byddaf yn bwyta tatws, bara, pasta a reis

    Anwir. Nid oes tystiolaeth y bydd y bwydydd hyn yn gwneud i chi fagu mwy o bwysau nag unrhyw fwyd arall. Cael gormod o galorïau’n gyffredinol sy’n gallu achosi magu pwysau. Mae’r bwydydd hyn yn ffynhonnell bwysig o egni i chi a’ch babi sy’n tyfu, ac maent hefyd yn cynnwys ffeibr a fitaminau.

  • 8. Mae angen i fenywod beichiog gymryd rhai fitaminau

    Gwir.  Dylai menywod gymryd 400 microgram o asid ffolig bob dydd tan ddiwedd y 12fed wythnos o feichiogrwydd. Mae hyn yn helpu asgwrn cefn y babi ddatblygu fel arfer, ac mae’n diogelu yn erbyn spina bifida neu ddiffygion tiwb nerfol.

    Dylai pob menyw feichiog ystyried cymryd 10 microgram o fitamin D bob dydd, a hefyd wrth fwydo ar y fron. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod esgyrn babi yn datblygu fel arfer ac yn helpu i ddiogelu esgyrn mamau hefyd.  Gall rhai menywod gael y fitaminau hyn am ddim gan Cychwyn Iach drwy eu bydwraig.  Efallai y bydd meddyg neu fydwraig yn cynghori rhai menywod i gymryd fitaminau ychwanegol. Sicrhewch eich bod yn osgoi atchwanegiadau nad ydynt wedi’u gwneud ar gyfer menywod beichiog. Gallent fod yn niweidiol i’ch babi am eu bod yn cynnwys symiau mawr o fitamin A, er enghraifft.

  • 9. Mae angen i mi fwyta siocled, losin a diodydd llawn siwgr i gael egni

    Anwir. Nid oes angen i chi fwyta nac yfed pethau melys i gael egni ychwanegol. Mae bwydydd a diodydd llawn siwgr yn aml yn uchel mewn calorïau ac yn isel mewn maethynnau eraill.

  • 10. Bydd bwyta bwydydd braster isel yn fy helpu i reoli fy mhwysau

    Anwir.  Nid yw bwyd â label ‘braster isel’ neu ‘heb fraster’ bob amser yn isel mewn calorïau, a gallant fod yn uwch mewn pethau eraill fel siwgr.

  • 11. Dylech fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd

    Gwir. Mae ffrwythau a llysiau’n naturiol yn isel mewn braster a chalorïau.  Maent yn uchel mewn ffeibr, fitaminau a’r mwynau y mae eu hangen arnom i gyd. Mae ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi, tun a sych i gyd yn cyfrif, a gallant fod yr un mor faethlon â ffrwythau a llysiau ffres. Mae’n ddefnyddiol eu cadw yn y rhewgell neu’r cwpwrdd gartref.