Cam 5

Helpu’ch babi i dyfu’n gyson

Pan fo babanod yn tyfu’n gyson yn eu blwyddyn gyntaf, maent yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.

Byddant fel arfer yn colli ychydig o bwysau yn y dyddiau cyntaf ar ôl cael eu geni. Nid oes angen poeni am hyn a byddant yn magu’r pwysau’n ôl yn gyflym. Os na wnânt, gall eich bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd helpu.

Ar ôl yr wythnosau cyntaf, dylai’ch babi fagu pwysau’n fwy cyson – gydag ambell ostyngiad neu gynnydd twf. Byddant fel arfer yn magu pwysau’n gyflymach yn ystod y 6-9 mis cyntaf. Mae’n arafu pan fydd eich babi’n symud o amgylch yn amlach.

Sut gallaf helpu fy mabi i dyfu’n gyson?

  • Cofnodwch bwysau’ch babi yn y ‘llyfr coch’

    Bydd eich ymwelydd iechyd yn pwyso ac yn mesur eich babi. Bydd yn plotio’i dwf ar siart yn eich Cofnod Iechyd Plentyn Personol. Yn aml gelwir hyn y ‘llyfr coch’, oherwydd bod y clawr yn goch. Bydd hyn yn eich helpu i weld sut mae’ch plentyn yn tyfu. Os yw dan ei bwysau neu dros ei bwysau, bydd eich ymwelydd iechyd yn gallu helpu. Dysgwch ragor am bwysau a thaldra eich babi.

  • Stopiwch fwydo pan fydd eich babi wedi cael digon

    Bydd babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron bob amser yn cymryd y swm llaeth angenrheidiol. Ond os ydych yn defnyddio fformiwla neu’n cyflwyno bwydydd solet, bydd angen i chi ddysgu adnabod pryd mae’ch babi yn llawn a stopio bwydo. Mae’n iawn os nad yw’n gorffen ei botel neu fwyd.

  • Pan fydd eich babi yn barod am fwydydd solet, cadwch e’n iach

    Nes eu bod yn chwe mis oed, llaeth yw’r cyfan sydd ei angen ar eich babi. Ond pan fyddant yn barod am fwydydd solet, cynigiwch fwyd iach iddynt â llawer o flasau ac ansoddau gwahanol. Ceisiwch gynnwys eich babi mewn amseroedd pryd teuluol, a bwytwch yr un bwydydd iach, wedi’u paratoi heb halen na siwgr. Nid yw iach yn golygu braster isel i fabanod a phlant ifanc. Mae braster yn ffynhonnell galorïau bwysig a rhai fitaminau. Mae’n well i fabanod a phlant ifanc dan ddwy flwydd oed gael iogwrt a chaws braster llawn, yn hytrach nag amrywiadau braster isel.  Gall plant yfed llaeth buwch, braster llawn sydd orau, o flwydd oed.


    Dysgwch ragor am ddiddyfnu

     

  • Cyfateb y ddogn i’r unigolyn

    Rhwng 6 a 12 mis, mae stumog eich babi yn dal i fod yn fach iawn. Efallai na fydd angen cymaint arnynt ag y credwch. Mae’n iachach rhoi dogn sy’n iawn ar gyfer eu maint, ac yna rhoi mwy os oes chwant bwyd arnynt o hyd. Bydd yr Eating Well Recipe Book yn eich helpu i gyfateb y maint dogn ag oed eich babi.

  • Anogwch eich babi i fod yn egnïol

    Mae babanod yn dwlu ar symud o le i le. Rhowch ‘amser bola’ i’ch babi bob dydd a gadewch iddynt symud, cicio a chropian o amgylch mewn man diogel.