Cam 3

Bwydo’ch babi ar y fron

Mae babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Maent yn llai tebygol o ddioddef pwysedd gwaed uchel a chlefyd y galon pan fyddant yn hŷn.

Ceisiwch roi dim ond llaeth y fron i’ch babi hyd nes y bydd tua chwe mis oed. Parhewch i fwydo ar y fron wrth ichi gyflwyno bwydydd solet. Parhewch i fwydo ar y fron cyhyd ag y byddwch chi a’ch babi eisiau, ac o leiaf tan ben-blwydd eich babi yn un oed.

Image of lady with her thumbs up

Mae bwydo ar y fron yn dda i chi hefyd

Byddwch yn defnyddio hyd at 500 o galorïau y dydd drwy fwydo ar y fron. Mae hynny yr un peth ag awr ar y felin draed, a gallai eich helpu i golli’r pwysau a fagwyd yn ystod beichiogrwydd. Bydd bwydo ar y fron yn eich helpu i feithrin perthynas â’ch babi hefyd. Hefyd, byddwch mewn llai o berygl o ganser yr ofari, canser y fron ac osteoporosis.

Pan rydych yn feichiog, mae eich corff yn paratoi i wneud llaeth yn arbennig i’ch babi, a elwir fel arall yn llaetha. Efallai y byddwch yn gweld ac yn teimlo newidiadau i’ch corff. Oes gennych chi gwestiynau? Gwyliwch y fideo hwn sy’n esbonio popeth am sut mae llaetha’n gweithio. (Dolen i wefan Saesneg yn unig)

  • Rwy'n barod i fwydo ar y fron. Beth ddylwn i ei wneud?

    Pa un o’r datganiadau hyn sy’n disgrifio orau sut rydych yn teimlo?

     

    Dw i’n mynd i fwydo ar y fron yn bendant. Dyma’r ffordd fwyaf naturiol o fwydo babi.

    Mae hynny’n newyddion gwych. Bydd llaeth y fron yn rhoi i’ch babi yr holl faethynnau y mae eu hangen arno. Gall eich llaeth ei ddiogelu rhag clefydau fel heintiau yn y glust, heintiau ar y frest ac anhwylder ar y stumog.

    Gall y diogelwch hwn bara am flynyddoedd lawer a’r hwyaf rydych yn bwydo ar y fron y mwyaf fydd y manteision iechyd. Bydd yn ei helpu i dyfu’n gyson hefyd. Wrth i’ch babi dyfu a newid, mae’ch llaeth yn newid – rhywbeth na all yr un fformiwla ei wneud.

     

    Gwnewch bwydo ar y fron yn rhan o’ch cynllun geni

    Os ydych yn feichiog, efallai y byddwch wedi’ch cynghori i lunio cynllun geni. Gwnewch bwydo ar y fron yn rhan ohono. Siaradwch â’ch bydwraig am drefnu cael cyffyrddiad croen i groen cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch babi gael ei eni. Ceisiwch fwydo o fewn awr gyntaf bywyd eich babi.

     

    Bwytwch yn dda a gofalwch amdanoch eich hun        

    Does dim angen i chi fwyta pethau arbennig er mwyn bwydo ar y fron. Ond mae angen i chi fwyta deiet iach a chytbwys ac osgoi smygu ac alcohol. Bydd angen i chi yfed digon o ddŵr hefyd. Beth bynnag rydych chi’n ei fwyta neu’n ei yfed, bydd eich babi yn cael yr un peth. Dysgwch ragor

     

    Mae bwydo ar y fron yn dda i chi hefyd

    Byddwch yn defnyddio hyd at 500 o galorïau y dydd drwy fwydo ar y fron. Mae hynny yr un peth ag awr ar y felin draed, a gallai eich helpu i golli’r pwysau a fagwyd yn ystod beichiogrwydd. Bydd bwydo ar y fron yn eich helpu i feithrin perthynas â’ch babi hefyd. Hefyd, byddwch mewn llai o berygl o ganser yr ofari, canser y fron ac osteoporosis.

     

    Siaradwch â’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd   

    Mae rhai mamau’n gallu bwydo ar y fron yn hawdd ar unwaith. I eraill mae’n cymryd ychydig mwy o amser ac ymarfer. Mae hyn yn arferol. Os oes angen cefnogaeth arnoch wrth fwydo ar y fron, gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd. Hefyd, cewch lawer o wybodaeth ddefnyddiol am hyn yn y llyfr Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth

     

    Grwpiau Cefnogi Bwydo ar y Fron         

    Ceir grwpiau cefnogi bwydo ar y fron ar draws Cymru. Maent yn ffynhonnell wybodaeth ac anogaeth ardderchog i famau sy’n bwydo ar y fron neu fenywod beichiog. Gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am grwpiau yn eich ardal chi.

    Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth

    Dysgwch ragor

     

  • Ddim yn siŵr am fwydo ar y fron?

    Pa un o’r datganiadau hyn sy’n disgrifio orau sut rydych yn teimlo?

    Dw i’n weddol siŵr fy mod i eisiau bwydo ar y fron, ond dw i’n poeni ychydig am y straeon mae pobl wedi’u dweud wrthyf. Mae’n swnio’n anodd. Dw i’n poeni efallai na fyddaf yn gallu ei wneud.

    Mae bron pob menyw’n gallu bwydo ar y fron yn gorfforol. Does dim ots beth yw siâp na maint eich tethau, bydd eich babi yn dod o hyd i’r ffordd orau o glymu ei hun. Mae bwydo ar y fron yn sgil y byddwch chi a’ch babi yn dysgu gyda’ch gilydd. Mae angen ychydig o ymarfer i’w meistroli, ac weithiau ychydig o help allanol. Mae llawer o gefnogaeth ar gael. Eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd a mamau eraill mewn grwpiau cefnogi bwydo ar y fron. Gall unrhyw un o’r rhain eich gwylio’n bwydo, eich helpu i ganfod y broblem, a helpu i’w datrys. Does dim rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun.

    Mae bwydo ar y fron yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’ch babi ac yn eich helpu i feithrin perthynas â’ch babi. Nid oes angen i’ch partner deimlo ei fod wedi’i adael allan ychwaith. Yn y dyddiau cynnar iawn, chi a’ch llaeth fydd canol byd eich babi – ac mae hyn yn arferol. Ond nid yw hynny’n atal eich partner rhag cymryd rhan. Anogwch ef i newid cewynnau, rhoi bath i’r babi, neu gludo’r babi o le i le mewn gwregys. Anogwch ef i siarad, canu a chwarae gyda’r babi hefyd. Pan fydd yn gofalu amdanoch chi a’r babi mewn ffyrdd eraill, byddant yn datblygu perthynas sydd yr un mor ddwys.

    Dw i ddim eisiau bwydo ar y fron.

    A oes unrhyw beth a allai newid sut rydych yn teimlo?

    Ydych chi’n teimlo’n hunanymwybodol neu’n poeni y bydd yn brifo? Efallai y byddai siarad â mamau eraill sy’n bwydo ar y fron yn helpu.

    Bydd llaeth y fron yn rhoi i’ch babi yr holl faethynnau y maent eu hangen. Gall eich llaeth ei ddiogelu rhag clefydau fel heintiau yn y glust, heintiau ar y frest ac anhwylder ar y stumog. Gall y diogelwch hwn bara am flynyddoedd lawer a’r hirach rydych yn bwydo ar y fron y mwyaf fydd y manteision iechyd. Bydd yn ei helpu i dyfu’n gyson hefyd. Wrth i’ch babi dyfu a newid, mae’ch llaeth yn newid – rhywbeth na all yr un fformiwla ei wneud.

    Dysgwch ragor

    Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth