Mae helpu plant i gynnal pwysau iach yn un o'r pethau gorau...

...y gallwn ei wneud i'w paratoi ar gyfer bywyd.

Public Health Wales colleagues meeting

Rydym wedi creu’r 10 Cam hyn i helpu teuluoedd yng Nghymru i fagu plant hapus ac iach. Maent wedi’u paratoi gan arbenigwyr iechyd a rhieni, a gellir eu defnyddio wrth weithio gyda theuluoedd i’w helpu i sefydlu arferion da.

Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol yn eu hymarfer wrth iddynt gynorthwyo teuluoedd i roi’r dechrau gorau posibl i blant.

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru

Delwedd yn dangos canran y plant sy'n ordew yng Nghymru

Mae achosion o fod dros bwysau a gordewdra yn bryder iechyd cyhoeddus o bwys. Mae ychydig dros chwarter y plant yng Nghymru (26.2%) dros bwysau neu’n ordew Adroddiad Cenedlaethol Mesur Plant 2021-2022. Mae’r lefelau yn uwch ar draws bob oedran yn yr ardaloedd mwy difreintiedig.

Delwedd yn dangos canran y plant sydd dros bwysau neu'n ordew mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru

Dysgwch ragor am ordewdra ymhlith plant yn eich bwrdd iechyd a’ch ardal awdurdod lleol yma.

Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi amrywiaeth o wybodaeth am nifer yr achosion o ordewdra ar gyfer pob oedran ledled Cymru, y gellir dod o hyd iddi yma.

Mae bod dros bwysau neu’n ordew yn ystod plentyndod yn golygu canlyniadau ar gyfer iechyd yn y tymor byr a’r tymor hir.

Effeithiau ar iechyd

Gall plant sy’n ordew brofi problemau iechyd fel clefyd yr afu brasterog di-alcohol, cerrig bustl, asthma, cyflyrau anadlu a chyhyrysgerbydol oherwydd anhwylder cwsg. Ceir effeithiau emosiynol a seicolegol hefyd ar blant sydd dros bwysau, sy’n cynnwys pryfocio a gwahaniaethu gan gyfoedion, hunan-barch isel, pryder ac iselder. Gall rhai chwaraeon a mathau eraill o weithgarwch corfforol fod yn anodd iddynt, a all leihau’r tebygolrwydd o gyfranogiad rheolaidd a golygu eu bod yn dewis ffordd o fyw sy’n fwy eisteddog.

Os yw plentyn dros bwysau neu’n ordew ceir tebygolrwydd uchel y bydd hyn yn parhau drwy’r blaenlencyndod ac i mewn i oedolaeth. Gall hyn achosi problemau iechyd cysylltiedig fel diabetes, clefyd y galon a chanserau – ynghyd â risg uwch o farwolaeth gynamserol, anabledd ac afiachusrwydd.

Polisi Presennol

Mae yna nifer o strategaethau a pholisïau cenedlaethol yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â Gordewdra Plentyndod. Mae’r rhain yn cynnwys:

Tystiolaeth

Mae’r 10 Cam yn seiliedig ar dystiolaeth o’r Astudiaethau Carfan, gan gyflwyno pethau cadarnhaol y gall teuluoedd eu gwneud i helpu i atal plant rhag bod yn ordew erbyn pan fyddant yn bump oed.

Canfyddiadau ymchwil ansoddol

Cynhaliwyd gwaith Dirnadaeth ar draws Cymru i lywio datblygu’r 10 Cam.

Adnoddau

Mae’r adnoddau canlynol ar gael gan Bob Plentyn Cymru i’ch helpu i gynorthwyo teuluoedd â phlant ifanc.

  • Adnoddau Gwybodaeth Iechyd i Rieni Pob Plentyn
  • Poster A4 10 Cam i Bwysau Iach
  • Poster A3 10 Cam i Bwysau Iach
  • Taflen 10 Cam i Bwysau Iach
  • Cerdyn z 10 Cam i Bwysau Iach
  • Llyfryn bwydydd solet
  • Dilynydd amser sgrîn a chwarae yn yr awyr agored (adnodd electronig yn unig)
  • Prif Swyddogion Meddygol y DU ar ‘Ymarfer Corff i Fenywod Beichiog’ ffeithlun (adnodd electronig yn unig)
  • Prif Swyddogion Meddygol y DU ‘Gweithgarwch Corfforol i Fenywod ar ôl Genedigaeth (Rhwng Geni a 12 Mis)’ ffeithlun (adnodd electronig yn unig)
  • Prif Swyddogion Meddygol y DU ‘Gweithgarwch Corfforol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (Genedigaeth i 5 Mlynedd)’ ffeithlun (adnodd electronig yn unig)

 

Gallwch roi archebion am gopïau caled o’r adnoddau hyn ar dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu ffon 029 2010 4650, neu e-bost  Health.Info@wales.nhs.uk