Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd
Mae unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch wedi’i diogelu rhag cael ei defnyddio gan unigolion a sefydliadau eraill o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 a bydd dim ond yn cael ei defnyddio at ddibenion aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich neges a anfonwyd drwy Wefan Pob Plentyn.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw’r wybodaeth bersonol a gedwir gennych cyhyd ag yw’n rhesymol angenrheidiol at ddiben yr ymholiad ac yn unol ag amserlenni cadw Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw sefydliad allanol.

Diogelwch
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu’r wybodaeth a ddarperir gennych, ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i’n safle a bydd unrhyw drosglwyddo yn ôl eich menter eich hun. Pan fyddwn wedi cael eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch priodol wedi’u hanelu at atal unrhyw fynediad heb awdurdod, prosesu anghyfreithlon, colled ddamweiniol, dinistrio neu ddifrod.

Cysylltiadau â Safleoedd Allanol
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, felly pan fyddwch yn symud i safle arall sy’n casglu gwybodaeth bersonol dylech bob amser ddarllen y polisi preifatrwydd sy’n ymwneud â’r wefan honno.

Cysylltwch â ni
Ar gyfer yr holl sylwadau, ymholiadau a cheisiadau eraill sy’n ymwneud â’n defnydd o’ch gwybodaeth, cysylltwch ag:

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
2 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

Ffôn: 029 20 227 744
Ffacs: 029 20 827 622,
E-bost: general.enquiries@wales.nhs.uk