Cam 4

Arhoswch am chwe mis cyn dechrau bwyd solet

Mae babanod y rhoddir bwyd solet iddynt yn rhy fuan yn fwy tebygol o fod dros eu pwysau.

Yn ystod y chwe mis cyntaf, mae babanod yn cael eu holl faethynnau angenrheidiol o laeth y fron neu fformiwla babanod

Arhoswch nes bod eich babi tua chwe mis oed cyn rhoi bwyd solet iddynt. Tan hynny, nid yw ei system dreulio wedi datblygu’n llawn. Gall cyflwyno bwydydd heblaw am laeth yn rhy gynnar achosi poen yn y bol a chynyddu’r perygl o gyflyrau fel asthma neu ecsema.

Sut bydda’ i’n gwybod pryd mae fy maban yn barod?

Ie i’r tri – mae eich babi yn barod i roi cynnig ar fwydydd solet ochr yn ochr â llaeth.

Na i un neu ragor – nid yw eich babi’n barod eto.


All eich babi ddal ei ben lan ac eistedd yn dda pan gaiff ei gefnogi?

All eich babi edrych ar wrthrych, ei godi a dod ag ef i’w geg ar ei ben ei hun?

All eich babi lyncu bwyd heb wthio’r bwyd yn ôl allan â’i dafod?

Mae pob babi yn wahanol. Ond mae tri arwydd sy'n yn dangos bod eich babi yn barod am ei fwydydd solet cyntaf. Pan fydd oddeutu chwe mis, chwiliwch am arwyddion bod eich babi yn barod.

ARwyddion Anwir

Mae rhai pobl yn credu bod y rhain yn arwyddion bod eich babi yn barod am fwydydd solet.  Nid yw’n barod.  Os ydych yn credu bod eich babi yn barod cyn chwe mis, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd.