Cam 9

Sicrhewch fod eich plentyn yn cael digon o gwsg

Bydd cael digon o gwsg yn rheolaidd yn helpu eich plentyn i aros yn bwysau iach

Mae cwsg yr un mor bwysig â bwyta’n iach ac ymarfer corff. Mae’n dda i ddatblygiad corfforol a meddyliol eich plentyn. Pan fydd eich plentyn wedi cael noson dda o gwsg, bydd ganddo fwy o egni ac yn llai tebygol o fod eisiau bwyd llawn siwgr yn ystod y dydd. Byddwch yn cael budd hefyd, oherwydd bydd gennych fwy o amser i chi eich hun ac i ymlacio.

Faint o gwsg sydd ei angen ar fy mhlentyn?

Mae pob plentyn yn wahanol felly does dim swm penodol o gwsg. Mae faint sydd ei angen arnynt, a phan fydd ei angen arnynt, yn newid wrth iddynt fynd yn hŷn hefyd. Dyma ganllaw defnyddiol:

Sut gallaf sicrhau bod fy mhlentyn yn cael digon o gwsg?

  • Sefydlwch drefn yn gynnar – a glynu wrthi

    Mae trefn amser gwely yn sicrhau bod plant yn gyfarwydd ag amseroedd cysgu ac amseroedd deffro. Eich penderfyniad chi fydd hyn, ond ceisiwch fod yn gyson bob nos – hyd yn oed os bydd cwsg yn anodd oherwydd torri dannedd, salwch neu dwf sydyn. Gall eich trefn gynnwys cael bath, darllen stori, pylu’r goleuadau neu ganu hwiangerdd. Ceisiwch ddechrau hyn pan fydd eich plant tua thri mis oed.

  • Gwnewch ystafell wely eich plentyn yn gyfeillgar i gysgu

    Yn ddelfrydol, dylai’r ystafell fod yn dywyll, yn dawel ac wedi’i chadw ar dymheredd o 18 i 24°C. Hefyd, ni ddylai fod unrhyw sgriniau na dyfeisiau electronig yn yr ystafell.  Mae angen i’ch plentyn gysylltu’r ystafell ag awyrgylch pwyllog, tawel a chysgu.

  • Cadwch y drefn i fynd wrth i'ch plentyn dyfu i fyny

    Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, ceisiwch gadw at drefn amser gwely debyg. Gall gormod o gyffro ac ysgogiad cyn amser gwely ddihuno eich plentyn eto. Felly treuliwch amser yn ymlacio a gwneud rhai gweithgareddau tawelach. A sicrhewch nad oes unrhyw amser sgrîn am o leiaf awr cyn mynd i’r gwely.

  • Mynnwch ragor o help os bydd ei angen arnoch

    Os ydych yn cael problemau sefydlu trefn ar gyfer eich babi, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd am gyngor. Gallwch hefyd ddarllen canllaw’r Sleep Charity’s Bedtime Routines Guide

Sleep illustration