Cam 1

Ceisiwch gynnal pwysau iach pan fyddwch yn dechrau teulu

Pan fyddwch yn bwysau iach, mae’n haws beichiogi, ac yn well i’ch babi

Mae’n eich helpu i osgoi cymhlethdodau fel pwysedd gwaed uchel ac rydych yn fwy tebygol o gael genedigaeth arferol. Ac mae eich babi yn fwy tebygol o gael ei eni’n bwysau iach.

Sut gallaf wybod a ydw i’n bwysau iach?

 

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell pwysau GIG Cymru i ddarganfod a ydych yn cynnal y pwysau cywir ar gyfer eich taldra. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi’ch taldra a’ch pwysau.