Adnoddau Gwybodaeth i Rieni
Mae’r adnoddau gwybodaeth iechyd i rieni ar y dudalen hon wedi’u cynllunio i roi’r holl wybodaeth hanfodol a phwysig sydd ei hangen ar rieni i’w helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant.
Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth
Dylai’r holl rieni tro cyntaf yng Nghymru gael copi caled, neu gael eu cyfeirio at y fersiwn digidol hwn o Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth, yn gynnar yn ystod eu beichiogrwydd. Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog, ac nid ydych wedi derbyn copi o’r llyfryn hwn eto ond yr hoffech gael un, gofynnwch i’ch bydwraig roi un i chi.
Mae’r llyfryn ar gael yn Gymraeg a Saesneg felly rhowch wybod i’ch bydwraig pa fersiwn fyddai orau gennych. I weld fersiwn Saesneg y llyfryn digidol hwn, cliciwch yma.
Mae’r llyfryn hwn yn cymryd lle elfennau beichiogrwydd a geni adnodd gwybodaeth blaenorol i rieni Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Naw Mis a Mwy. Fodd bynnag, os cawsoch gopi o Naw Mis a Mwy gan eich bydwraig neu ymwelydd iechyd, gallwch barhau i gyfeirio ato pan fydd angen gwneud hynny, gan fod yr holl wybodaeth ynddo yn gyfredol.
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth
Adnoddau digidol Naw Mis a Mwy
Bydd y llyfrynnau dilynol yn y gyfres Pob Plentyn newydd hon sy’n ymdrin â genedigaeth hyd at 7 oed, ar gael yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, ond hyd nes y byddant ar gael, cyfeiriwch at yr adnoddau isod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
Bwyta’n dda fel mam newydd
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad Bwyta’n dda fel mam newydd
I gael fersiwn Saesneg o’r adnodd digidol hwn, cliciwch yma.
Eich babi’n tyfu
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad Naw Mis a Mwy Eich Babi’n Tyfu
I gael fersiwn Saesneg o’r adnodd digidol hwn, cliciwch yma.
Eich plentyn bach
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad Naw, Mis a Mwy Eich Plentyn Bach
I gael fersiwn Saesneg o’r adnodd digidol hwn, cliciwch yma.