Dechrau arni

Mae dechrau ar fwyd solet yn adeg gyffrous i chi a’ch babi.

Dyma’i gyfle cyntaf i archwilio amrywiaeth gwych o ansoddau a blasau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i Gam 4.

  • Pa fwyd a phryd?

    Cyflwynwch fwydydd solet mewn camau. Mae pob babi yn wahanol a bydd yn datblygu yn ôl ei gyflymder ei hun. Parhewch i gynnig gwahanol flasau ac ansoddau.

  • O tua chwe mis

    O tua chwe mis dechreuwch roi bwyd wedi’i stwnsio â fforc hyd nes ei fod yn feddal i’ch babi. Rhowch gynnig ar lysiau wedi’u coginio’n feddal fel pannas, tatws, iam, tatws melys neu foron. Rhowch ffrwythau wedi’u stwnsio’n feddal fel banana, afocado, eirin gwlanog neu felon iddynt.

    Pan fydd eich babi yn gyfarwydd â’r rhain, rhowch gynnig ar roi cig meddal wedi’i goginio iddo fel cyw iâr, neu bysgod wedi’u stwnsio. Gwiriwch yn ofalus am unrhyw esgyrn. Rhowch gynnig ar basta, nwdls, tost, darnau o chapatti, corbys, reis ac wyau wedi’u berwi’n galed a’u stwnsio. Gallant hefyd gael cynnyrch llaeth braster llawn fel iogwrt plaen, fromage frais neu gwstard. Gellir defnyddio llaeth cyfan buwch wrth goginio neu ei gymysgu â bwyd o chwe mis oed.

    Mae babanod yn aml yn hoffi dechrau bwyta’r rhain fel bwydydd bys a bawd, neu wedi’u stwnsio. Bwyd bys a bawd yw bwyd wedi’i dorri’n ddarnau sy’n ddigon mawr i’ch babi eu dal yn ei ddwrn gyda darn yn dod allan o frig ei ddwrn. Mae darnau tua maint eich bys eich hun yn gweithio’n dda. Gallwch hefyd fwydo eich babi â llwy, er y bydd yn gallu gwneud hyn dros ei hun cyn bo hir.

  • Bwydydd sy'n iawn i'w rhoi i'ch babi o chwe mis
    • Ffrwythau a llysiau. Mae rhai ffres, rhewedig, neu mewn tun yn eu sudd naturiol neu ddŵr i gyd yn wych.
    • Llaeth buwch cyflawn mewn pethau fel cwstard neu saws caws.
    • Cynnyrch buwch braster llawn, fel iogwrt, caws caled, caws meddal a phwdin reis.
    • Bara, nwdls, reis, pasta, chapattis, neu unrhyw fwyd wedi’i wneud o flawd gwenith.
    • Wyau, cig, pysgod a physgod cregyn wedi’u coginio’n dda.
    • Ffa a chorbys.

     

     

  • Bwydydd y dylid eu hosgoi
    • Mêl
    • Pate
    • Peidiwch â defnyddio llaeth buwch fel prif ddiod eich babi hyd nes y bydd yn un oed.
    • Halen neu giwbiau stoc.
    • Bwydydd hallt fel creision, sglodion â halen ychwanegol a chnau cyflawn.
    • Bwydydd wedi’u prosesu fel byrgyrs, pasteiod, bysedd pysgod, nygets neu selsig.
    • Bwydydd melys fel siocled, melysion, bisgedi, teisennau a theisennau crwst.
    • Unrhyw beth sydd wedi’i felysu â melysyddion artiffisial neu ychwanegion.

     

  • Wyth i naw mis

    Dyma pryd mae’n debygol y bydd eich babi yn dechrau bwyta tri phryd y dydd. Bydd prydau yn gymysgedd o fwydydd bys a bawd, bwydydd wedi’u stwnsio a’u torri.

    Sicrhewch fod deiet eich babi yn amrywiol. Rhowch ffrwythau a llysiau, bara, reis, pasta, tatws a bwydydd startsh eraill iddo. Gall fwyta cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein nad ydynt yn gynnyrch llaeth. Rhowch laeth a chynnyrch llaeth iddo hefyd.

  • O 12 Mis

    Bydd eich babi bellach yn bwyta tri phryd y dydd. Torrwch y bwyd os oes angen. Parhewch i roi llaeth mam neu laeth buwch, a byrbrydau iach fel ffrwythau, ffyn llysiau neu dost a chacennau reis.

  • Llaeth

    Dylech barhau i roi llaeth y fron neu laeth fformiwla i’ch babi hyd nes y bydd yn flwydd oed o leiaf.

    Pan fyddwch yn dechrau cyflwyno bwydydd solet, llaeth fydd y ffynhonnell faeth bwysicaf o hyd. Wrth i’ch babi ddechrau bwyta mwy o fwydydd solet, bydd yn yfed llai o laeth.

  • Maint dogn

    Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar faint dogn cyn bod eich babi yn un oed. Dylai ei chwant am fwyd eich arwain. Peidiwch â phoeni os nad yw eich babi wedi bwyta llawer mewn pryd bwyd neu dros ddiwrnod, mae’r hyn mae’n ei fwyta dros wythnos yn bwysicach.

  • Fitaminau

    Bydd angen rhoi diferion fitamin D i fabanod sy’n cael eu bwydo ar y fron o’u genedigaeth. Dylai pob plentyn o chwe mis i bump oed gael diferion sy’n cynnwys fitamin A, C a D bob dydd.  Nid oes angen fitaminau ar fabanod sy’n yfed mwy na 500ml o laeth fformiwla y dydd, oherwydd bod llaeth fformiwla wedi’i atgyfnerthu â maethynnau.

    Gallwch brynu diferion fitamin i fabanod a phlant yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd a fferyllfeydd. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu eich fferyllydd a all eich helpu i ddewis y fitaminau sydd eu hangen arnoch. Os ydych yn gymwys ar gyfer Cynllun Cychwyn Iach, gallwch gael fitaminau am ddim. Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd sut i gael gafael ar y rhain yn eich ardal.

  • Storio ac ailgynhesu bwyd

    Dylech oeri bwyd mor gyflym â phosibl, o fewn un i ddwy awr os gallwch. Rhowch y bwyd yn yr oergell neu’r rhewgell. Dylech fwyta bwyd a roddwyd yn yr oergell o fewn deuddydd.

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn dadrewi bwyd wedi’i rewi’n iawn cyn ei ailgynhesu. Y ffordd fwyaf diogel o wneud hyn yw yn yr oergell dros nos, neu drwy ddefnyddio’r gosodiad dadrewi ar feicrodon.

    Ailgynheswch fwyd yn iawn fel ei fod yn boeth iawn drwyddo. Gadewch iddo oeri cyn ei gynnig i’ch babi.

    Er mwyn oeri bwyd yn gyflym dylech ei roi mewn cynhwysydd aerglos a’i ddal o dan dŵr oer sy’n rhedeg, gan droi’r cynnwys o bryd i’w gilydd er mwyn iddo oeri drwyddo.