Rhowch ffrwythau a llysiau i'ch plant bob dydd

Mae ffrwythau a llysiau yn llawn fitaminau, mwynau a ffeibr sy'n helpu i gadw eich plentyn yn iach.

Pan fydd eich plentyn yn 12 mis oed, ceisiwch roi pum dogn o wahanol ffrwythau a llysiau iddynt bob dydd. Dylai un dogn ffitio yng nghledr eu llaw. Gallai fod yn sleisen o afal i blentyn bach, ond afal bach i blentyn pedair oed.

5 a day 5 a day

GWNEWCH FYRBRYDAU O FFRWYTHAU a llysiau?  

  • Dylech drin ffrwythau a llysiau fel unrhyw fwyd arall

    Mae ffrwythau a llysiau fel unrhyw fwyd arall.  Osgowch gyflwyno bwydydd fel bisgedi a chacennau fel danteithion, a llysiau fel rhywbeth llai pleserus neu wahanol.

     

  • Mwynhewch eich ffrwythau a llysiau eich hun

    Os bydd eich plentyn yn eich gweld yn bwyta ac yn mwynhau amrywiaeth o ffrwythau a llysiau, maent yn fwy tebygol o ymuno â chi. Efallai y byddant yn gwrthod rhai ffrwythau a llysiau yn gyntaf, ond daliwch ati. Os byddant yn gweld pawb arall yn y teulu yn eu mwynhau, byddant yn aml yn newid eu meddwl.

  • Osgowch defnyddio bwyd fel gwobr

    Gall fod yn demtasiwn cynnig gwobrwyon i blant fel hufen iâ yn gyfnewid am fwyta eu llysiau. Ond nid yw’n gweithio yn yr hirdymor. Mae’n dysgu plant bod llysiau yn llai deniadol. Mae plant yn llai hoff o fwyd yn y tymor hir os oes rhaid eu gwobrwyo am ei fwyta.

  • Cofiwch gynnwys eich plentyn wrth ddewis bwyd a gwneud prydau

    Anogwch nhw i ddewis pa ffrwythau a llysiau yr hoffent. Ewch â’ch plentyn i siopa. Gadewch iddynt weld, cyffwrdd ac arogli’r bwyd a brynwch. Gadewch i’ch plentyn olchi a pharatoi ffrwythau a llysiau hefyd. Gallant gael hwyl yn gwneud wyneb neu gebab ffrwythau iddynt ei fwyta.

  • Cofiwch gynnwys ffrwythau a llysiau gyda'r rhan fwyaf o brydau

    Yn lle chwilio am ryseitiau newydd, ychwanegwch lysiau at brydau rydych eisoes yn eu gwneud. Rhowch gynnig ar ychwanegu moron mewn saws pasta, er enghraifft.

  • Gwenewch Fyrbrydau o ffrwythau a llysiau

    Cadwch fowlen o ffrwythau ffres wrth law. A chadwch rywfaint o lysiau fel ffyn ciwcymbr neu foron yn yr oergell ar gyfer byrbryd cyflym.

  • Rhowch lysiau a ffrwythau tun, sych ac wedi'u rhewi i blant hefyd

    Gall ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi, tun neu sych fod yr un mor dda. Maent yn aml yn rhatach ac yn para’n hirach na rhai ffres, sy’n fonws ychwanegol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis ffrwythau neu lysiau mewn tun sy’n cynnwys sudd naturiol neu ddŵr, heb unrhyw halen neu siwgr wedi’u hychwanegu.

  • Daliwch ati – hyd yn oed os ydynt yn ffyslyd ar y dechrau

    Mae’n arferol bod yn fwytwr ffyslyd pan ydych yn blentyn. Rydym i gyd wedi troi ein trwynau ar ysgewyll neu frocoli ar un adeg – mae rhai ohonom yn dal i wneud hynny. Mae’n rhan o ddod yn annibynnol. Yr unig beth sy’n rhaid chi ei wneud yw sicrhau eu bod ar gael, a dangos eich bod yn mwynhau ffrwythau a llysiau hefyd.