Cam 6

Ewch i chwarae yn yr awyr agored bob dydd

Mae plant sy'n chwarae yn yr awyr agored bob dydd yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach

Rhowch gyfle i’ch plentyn chwarae yn yr awyr agored bob dydd

Mae chwarae egnïol, yn enwedig yn yr awyr agored, yn helpu eich plentyn i ddatblygu’n gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.

Mae’n eu helpu i ddatblygu esgyrn a chyhyrau cryf, yn gwella eu sgiliau a’u cydsymud, ac yn gwneud iddynt deimlo’n well amdanynt eu hunain. Gall hyd yn oed eu helpu i gysgu’n well.

Beth gallaf ei wneud i helpu fy mhlentyn i chwarae yn yr awyr agored?