Y diodydd gorau i’w rhoi i’ch plant yw dŵr a llaeth.

Beth gallaf ei wneud i helpu fy mhlentyn i yfed diodydd iachach?

  • Darganfyddwch faint o siwgr sydd yn niodydd eich teulu

    Mae gwybod beth sydd yn niodydd eich teulu yn ei gwneud yn haws torri i lawr neu newid i ddewisiadau iachach. Lawrlwythwch ap siwgr Newid am Oes  i ddysgu rhagor.

  • Dewiswch ddiodydd iachach i chi eich hun

    Os nad ydych am i’ch plentyn gael rhai diodydd, mae’n haws peidio â’u cael yn y tŷ.

    Mae hynny’n well i chi, ac yn haws ar eich waled hefyd. Ceisiwch osgoi cael eich temtio gan gynigion yn yr archfarchnad. Gwnewch restr cyn i chi siopa a glynwch ati.

  • Esboniwch bethau i'ch plentyn

    Siaradwch â’ch plentyn am pam rydych yn gwneud newidiadau. Esboniwch nad yw rhai o’r diodydd maent yn eu mynnu yn dda i’w cyrff.

    Meddyliwch ymlaen at yr hyn y gallech ei ddweud os bydd eich plentyn yn gofyn am ddiod afiach mewn caffi neu fwyty.

    Bydd hynny yn ei gwneud yn haws peidio ag ildio os bydd hynny’n digwydd.

  • Gwariwch yr arian y byddwch yn ei arbed ar rywbeth brafiach

    Mae dŵr a llaeth yn rhad. Bydd cadw atynt yn arbed llawer o arian i chi. Rhowch wobr i chi’ch hun am wneud dewisiadau iachach.

    Efallai y gallech drefnu diwrnod allan i’r teulu cyfan.

  • Darganfod mwy am ddewisiadau amgen yn lle llaeth buwch

    Gall rhai plant yfed dewisiadau amgen cyfnerthedig i laeth buwch megis llaeth soia, ceirch, pys, cnau coco a llaeth cnau.

    Ar gyfer plant dan ddwy oed, bydd hyn fel arfer yn dilyn trafodaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae’n bwysig siarad â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd cyn gwneud unrhyw newidiadau dietegol arwyddocaol i’ch plentyn. Os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad i laeth, bydd yn eich cynghori ynghylch dewisiadau amgen llaeth addas i sicrhau bod eich plentyn yn cael y maetholion sydd eu hangen arno.

    Gellir defnyddio dewisiadau amgen llaeth cyfnerthedig o chwe mis oed ymlaen i’w hychwanegu at fwydydd/coginio/grawnfwyd. Ni ddylid eu rhoi fel prif ddiod nes bod eich plentyn yn 12 mis oed o leiaf ar ôl sicrhau yn gyntaf bod cymeriant dietegol eich plentyn yn amrywiol ac yn ddigonol i gael yr holl faetholion sydd eu hangen. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd am gyngor.

    Mae’n bwysig iawn dewis brandiau sydd wedi’u cyfnerthu â chalsiwm a fitaminau eraill megis B2, B12, Fitamin D ac ïodin, a gwirio’r label ar gyfer mathau heb eu melysu. Gall dewisiadau amgen llaeth hefyd fod yn is mewn calorïau na llaeth buwch. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch pwysau a/neu dwf eich plentyn, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu.

    Ni ddylid rhoi llaeth reis i blant dan bump oed, gan y gall gynnwys lefelau anniogel o arsenig.

    Mae gan yr First Steps Nutrition Trust ragor o wybodaeth am ddewisiadau llaeth amgen: Eating well: Vegan infants and under 5s