Cynnwys plant yn ystod amser bwyd

Gall annog diddordeb mewn bwyd a chysylltu plant â bwyd o oedran cynnar eu gwneud nhw’n fwy parod i flasu a derbyn bwydydd newydd, a bwyta deiet fwy amrywiol a chytbwys wrth iddyn nhw dyfu i fyny.

Dyma rai syniadau ar sut i gynnwys plant yn ystod amser bwyd, y gallwch eu haddasu yn unol ag oedran eich plentyn.

Gall plant gyfrannu o’r dechrau’n deg drwy helpu i ddewis pa brydau fyddwch chi’n eu coginio, helpu i lunio rhestri siopa, eich helpu i wneud y siopa ac, os yn bosib, dyfu rhywfaint o’u bwyd eu hunain hefyd.

Gall plant helpu i gynllunio prydau bwyd drwy:

  • Helpu i ddewis pa brydau fyddwch chi’n eu coginio.
  • Llunio rhestri siopa gyda chi.
  • Dysgu pa fwydydd sy’n dymhorol.
  • Tyfu perlysiau, ffrwythau neu lysiau gyda chi — mewn potiau bach yn y gegin, ar falconi neu yn eich gardd os oes lle.

Gall plant helpu gyda’r siopa drwy:

  • Helpu i ffeindio’r bwyd sydd ar eich rhestr siopa yn yr archfarchnad.
  • Helpu gyda’r pacio a rhoi’r siopa i gadw.

Gall plant fod yn fwy tebygol o flasu bwydydd /prydau newydd os ydyn nhw wedi helpu i’w dewis a’u paratoi. Gall plant ifanc hyd yn oed helpu i baratoi a choginio bwyd gartref. Gall plant helpu drwy:

  • Ffeindio’r cynhwysion sydd eu hangen arnoch o gwmpas y gegin.
  • Golchi cynhwysion, fel ffrwythau a llysiau.
  • Dewis offer.
  • Darllen ryseitiau.
  • Pwyso cynhwysion.
  • Sleisio cynhwysion (i blant hŷn, dan lygad oedolyn).
  • Stwnsio cynhwysion gyda fforc neu stwnsiwr tatws e.e. bananas/tatws.
  • Troi neu gymysgu cynhwysion (ar dymheredd ystafell i blant iau).
  • Taenu cynhwysion, fel sbred olew llysiau neu gaws meddal.
  • Cadw golwg ar yr amseru (gan ddefnyddio amserydd os oes gennych un).
  • Helpu i blatio’r prydau.

Gall amser bwyd fod yn achlysur cymdeithasol arbennig. Ceisiwch eistedd wrth fwrdd gyda’ch gilydd lle y bo’n bosibl, bwyta’r un bwyd gyda’ch gilydd a mwynhau amser i’r teulu, pan allwch ganolbwyntio ar eich gilydd y tu allan i’ch diwrnodau prysur.

Mae dod i’r arfer â phrydau teuluol o oedran cynnar yn wych ar gyfer datblygiad cymdeithasol babanod a phlant bach. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i ddechrau gosod trefn ac i ddangos esiampl i’ch plant o ran bwyta’n iach. Ceisiwch sicrhau bod amser bwyd yn gyfle i ymlacio ac yn brofiad cadarnhaol. Mae hwn yn amser gwych i blant ddatblygu mwynhad a diddordeb yn y bwyd maen nhw’n ei fwyta, gan sefydlu arferion bwyta da ar gyfer y dyfodol.

Dyma rai pethau y gall plant eu gwneud i helpu gydag amser bwyd:

  • Gosod y bwrdd
  • Gweini rhywfaint o’r bwyd eu hunain (gwych ar gyfer annog plant iau lle mae hyn yn bosib).
  • Clirio’r bwrdd a thacluso ar ôl gorffen.

Mae amser bwyd hefyd yn gyfle gwych i blant ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Dyma rai pethau y gall plant eu dysgu wrth gynnig help llaw:

  • Hylendid – golchi dwylo gyda sebon a dŵr cyn paratoi bwyd, bwyta a mynd i’r tŷ bach.
  • Dysgu am fwyd a bwyta’n iach.
  • Cwrteisi wrth y bwrdd.
  • Rhyngweithio cymdeithasol.
  • Annibyniaeth — dewis prydau, bwydo eu hunain, gweini eu bwyd eu hunain
  • Cyfrifoldeb — gosod y bwrdd / clirio ar ôl gorffen.
  • Datblygiad corfforol — sleisio, cymysgu, defnyddio cyllyll a ffyrc, bwydo eu hunain.
  • Sgiliau cyfathrebu.
  • Sgiliau coginio.