5 y dydd

Gall fod yn haws na’r disgwyl rhoi pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd i blant.

Wyddech chi fod y rhain i gyd yn cyfrif tuag at 5 y dydd?

  • Sudd oren 100% pur heb ei felysu. Dim ond un gwydr y dydd sy’n cyfrif
  • Llond llaw o gyrens, resins neu rawnwin
  • Pys, moron neu frocoli wedi’u rhewi
  • Smwddi ffrwythau ffres, wedi’i wneud gartre neu wedi’i brynu
  • Tomatos neu india-corn mewn tun
  • Bricyll neu eirin gwlanog mewn sudd naturiol, nid syrop
  • Afal neu fanana o faint canolig
  • Lolipop iâ wedi’i wneud o sudd ffrwythau pur
  • Deuddeg darn o bîn-afal tun neu saith mefusen
  • Cawl llysiau

Wyddech chi fod pob cinio ysgol yn cynnwys o leiaf 2 ddogn o ffrwythau neu lysiau? Felly dyna ffordd arall o wneud yn siŵr eu bod yn cael eu 5 y dydd! Gallwch leihau’r gost hefyd drwy brynu ffrwythau a llysiau mewn tun, a rhai wedi’u rhewi. Dyw’r rheini ddim yn pydru mor gyflym. Fodd bynnag, fel arfer mae’n rhatach prynu ffrwythau a llysiau ffres yn eu tymor.

Brecwast

Mae powlen o uwd â banana wedi’i sleisio ar ei ben yn frecwast blasus iawn – yn enwedig wrth i’r tywydd oeri.

Gwnewch salad ffrwythau – mae afalau, orennau, gellyg, mefus, grawnwin a melon yn wych. Torrwch y ffrwythau’n fân a’u rhoi mewn cynhwysydd, ychwanegwch ychydig bach o sudd oren heb ei felysu i gadw’r ffrwythau’n ffres – ac yna ei orchuddio a’i roi yn yr oergell. Bydd yn para am sawl diwrnod.

Rhowch wydraid o sudd ffrwythau pur i’r plant gyda’u brecwast – ond cofiwch mai un dogn y dydd yw sudd, dim ots sawl gwydraid y byddan nhw’n ei yfed. Cofiwch edrych ar y bocs i wneud yn siŵr bod y sudd yn bur a heb ei felysu. I weld rhagor o syniadau ynglŷn â sut i gael eich 5 y dydd, ewch i’r adran ryseitiau. Fe gewch lwyth o syniadau blasus ar gyfer cinio a swper hefyd!

Beth yw dogn?

Gallwch fwyta cymysgedd o ffrwythau a llysiau fel rhan o’ch 5 y dydd. Does dim angen ichi fwyta pum dogn o ffrwythau a phum dogn arall o lysiau. Mae hefyd yn well cael yr amrywiaeth mwyaf posibl – felly pob math o ffrwythau a llysiau yn hytrach na’r un rhai drwy’r amser.

I blant mae maint dogn yn amrywio, oherwydd bod gan bob plentyn sy’n tyfu fol o wahanol faint. Yn fras iawn, un dogn yw’r swm sy’n ffitio i gledr eu llaw.

Beth sy’n cyfrif?

Mae ffrwythau a llysiau tun, wedi’u rhewi, sudd 100% a llysiau a ffrwythau sych i gyd yn cyfrif tuag at 5 y dydd, yn ogystal â chynnyrch ffres.

Felly peidiwch ag anghofio am y pys wedi’u rhewi neu’r caniau o eirin gwlanog.

Beth sydd ddim yn cyfrif?

Nid yw pethau sydd wedi’u prosesu yn cyfrif. Fel byddwch yn ofalus gyda sgwosh ffrwythau oherwydd gall gynnwys siwgr. Nid yw jamiau a siytni yn cyfrif ychwaith. Maent yn cynnwys llawer o siwgr wedi’i ychwanegu a dim llawer o faetholion. Mae’r un peth yn wir am lysiau wedi’u piclo fel winwns a betys. Mae’r finegr yn cael gwared ar y daioni. Ac mae tatws yn cynnwys gormod o starts felly nid ydynt yn cyfrif ychwaith.